Nos Sul 23 Mai, 2010:
Seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru
Mae’r enillwyr wedi’u cyhoeddi heddiw ar gyfer 19fed Seremoni Wobrwyo Flynyddol BAFTA Cymru a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Gwobr Siân Phillips yn mynd i Rob Brydon a Gwobr Arbennig BAFTA Cymru yn anrhydeddu Dr Geraint Stanley Jones, CBE.
Mae Gwobr Gwyn Alf Williams am raglen neu gyfres o raglenni sydd wedi cyfrannu fwyaf at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes Cymru yn mynd i Catrin Evans’, Dwy Wraig Lloyd George, Gyda Ffion Hague.
Mae ffilmiau annibynnol Cymreig yn arwain y ffordd eleni gyda cynhyrchiad A Bit of Tom Jones yn derbyn Gwobr BAFTA Cymru am y Ffilm/Drdama Orau, Cwcw yn derbyn dwy wobr trwy Eiry Thomas’ am Yr Actores Orau a John Hardy am Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau.
Derbyniodd cynyrchiad Boomerang o Ryan a Ronnie ar gyfer S4C y mwyafrif o wobreuon ar y noson, gan dderbyn mwgwd arbennig BAFTA Cymru yng nghategoriau; Y Cyfarwyddwr Gorau: Drama, Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin, Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama, a pherfformiad Aled Pugh’o ‘Ryan’ yn teilyngu y wobr am Yr Actor Gorau.....
MWY
NODDWYR BAFTA CYMRU 2010:
Mae ffyddlondeb ac ymrwymiad ein partneriaid a’n noddwyr yn chwarae rhan holl bwysig yn ymrwymiad BAFTA Cymru i ragoriaeth. Unwaith eto BARCUD DERWEN yw Prif Noddwr y Seremoni Wobrwyo.
Mae nifer o noddwyr NEWYDD cyffrous yr hoffem ddiolch iddynt am eu cyfraniad yn 2010, yn cynnwys: MERCURE CARDIFF HOLLAND HOUSE HOTEL & SPA, ZEFFA, THE SINCLAIR GROUP, TAITTINGER, VILLA MARIA ac ETHOS CREATIVE.
Ac wrth gwrs cefnogaeth barhaus gan ein noddwyr arferol: BUSNES CREADIGOL CYMRU, LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU, SINEMAU CINEWORLD, ST DAVID’S, CYNGOR CAERDYDD, ECLIPSE CREATIVE, CYFREITHWYR MLM CARTWRIGHT, ARCHIF SGRIN A SAIN CENEDLAETHOL CYMRU, BLITZ, ELP, AB ACOUSTICS, PUSH 4 AUDIO VISUAL, MWNCI, SILENT ARENA a CHANOLFAN GELFYDDYDAU CHAPTER. Diolch hefyd i GANOLFAN MILENIWM CYMRU.
Diolch hefyd i’r Darlledwyr: BBC Cymru Wales, ITV Wales ac S4C.
MWY
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiad eleni cysylltwch â: awards@bafta-cymru.org.uk Mwy







